Wedi’i bweru gan garthion? Troi carthion yn fiohydrogen
Bob dydd mae 3,920 tunnell o ddeunydd organig yn cael eu cludo drwy garthffosydd yng Nghymru a Lloegr i gael eu trin, mae hynny’n cyfateb i bwysau 329 o fysiau deulawr. Un dull o drin carthion yw trwy dreulio anaerobig, mae hyn yn golygu defnyddio ocsigen i dorri i lawr halogyddion organig a llygryddion eraill. Un o sgil-gynhyrchion y broses hon yw bionwy- cymysgedd o nwyon sy’n digwydd yn naturiol gan gynnwys methan, carbon deuocsid a hydrogen sylffid.
Mae prosiect Dŵr Cymru, o’r enw HyValue, sydd ar hyn o bryd ar y cam archwiliadol, yn ceisio ymchwilio i ymarferoldeb creu biohydrogen yn uniongyrchol o fionwy sy’n cael ei gynhyrchu wrth drin carthion. Y gobaith yw y bydd y biohydrogen sy’n cael ei greu yn cael ei ddefnyddio i bweru fflyd o 300 o fysiau cyhoeddus Caerdydd, gan nid yn unig leihau’r allyriadau carbon cysylltiedig o ddisel, ond hefyd, lleihau allyriadau ocsid nitraidd ac allyriadau gronynnol yn y rhanbarth.
Dydi rhai mathau o gynhyrchu hydrogen ddim yn gynaliadwy gan eu bod yn dibynnu ar losgi tanwyddau ffosil neu’n cynhyrchu llawer iawn o garbon deuocsid. Mae’r prosiect hwn yn llawer mwy ecogyfeillgar gan fod modd dal a defnyddio’r CO2 sy’n cael ei gynhyrchu yn y broses a’i ddefnyddio i wneud CO2 gradd bwyd ar gyfer diodydd pefriog. O ran tanwydd adnewyddadwy, heb os, cyn belled â bod yr hil ddynol yn parhau, ni fydd y cyflenwad yn dod i ben. Mae’r prosiect yn enghraifft o wneud defnydd o wastraff, symud tuag at uwchgylchu a dull cylchol fel y gall y sector dŵr wneud y defnydd gorau posibl o’r holl adnoddau.
Mae’r cyhoedd yn croesawu’r syniad. Yn ne Cymru, lle mae’r prosiect wedi’i leoli mae problemau sylweddol yn ymwneud â llygredd aer. Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd 300 o fysiau, mae 100 o’r rhain yn gerbydau trydan ond mae 200 ohonyn nhw’n teithio ar hyd llwybrau sy’n rhy hir neu fryniog i wneud hynny ac angen eu pweru gan danwydd arall. Drwy newid bysus disel a phetrol am rai biohydrogen, nid yn unig byddai’r prosiect hwn yn delio â rheoli gwastraff o garthion, ond byddai hefyd yn creu buddion iechyd ac amgylcheddol i’r boblogaeth leol drwy newid trafnidiaeth leol i danwydd adnewyddadwy. Mae gan sector dŵr y DU darged uchelgeisiol o fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a gallai prosiect fel hwn, os bydd yn llwyddiannus, gael effaith enfawr ar gynnydd, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at Daith Dŵr Cymru i ddod yn Sero Net.