Choose A Language
Gwell gyda’n gilydd

Gwell gyda’n gilydd

December 14, 2022

breakthrough-2 collaboration customers cymraeg innovation leakage open-data vulnerable-consumers wastewater water-breakthrough-challenge water-innovation welsh winners

Manteision cydweithio traws-ddiwydiant

Un o dargedau allweddol Cronfa Arloesedd £200 miliwn Ofwat yw hyrwyddo cydweithredu y tu mewn i’r sector dŵr, a’r tu allan iddo, a’i gwneud hi’n haws cymhwyso dysgu ac arloesedd ledled y sector cyfan, yn hytrach nag o fewn ychydig o gwmniau yn unig.

I gwmnïau dwr, mae creu dulliau cydweithio yn gallu bod yn gymhleth. Ond os oes modd rhannu arloesedd a’i raddio ledled y diwydiant, mae’r potensial yn ddiddiwedd – waeth os yw hynny i leihau allyriadau carbon, osgoi tarfu ar gymdeithas neu arbed costau i gwsmeriaid.
Ar yr un pryd, drwy ddod yn bartneriaid â phobl a sefydliadau mewn sectorau eraill, mae’n bosibl y bydd cwmnïau dwr yn dod o hyd i arloesedd a syniadau newydd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae gwasanaethau dwr a dŵr aflan yn eu hwynebu. Gall cydweithio ddatgloi datrysiadau sydd nid yn unig yn cynnig manteision i ddŵr, ond ledled ein heconomi, cymdeithas ac amgylchedd. Mae ein cystadleuaeth sydd newydd ei gyhoeddi, y Water Discovery Challenge, wedi cael ei chyflwyno i geisio manteisio ar arbenigedd arloesedd o sectorau eraill.

Mae Cronfa Arloesedd Ofwat eisoes yn cael effaith.

  • Bu i 23 allan o 25 o gwmnïau dwr gofrestru ar gyfer o leiaf un gystadleuaeth
  • Yn y ddau gylch cystadlu cyntaf, roedd 298 o sefydliadau ynghlwm wrth y cofrestriadau.
  • Cyflwynwyd 95% o’r ceisiadau i’r Water Breakthrough Challenge 2 gan bartneriaid yn cydweithio mewn ffyrdd newydd, naill ai mewn partneriaethau newydd neu gan bartneriaid presennol yn cydweithio mewn capasiti gwahanol.

Isod, ceir rhai o’r prosiectau buddugol sydd wedi cael dyfarniad o gyllid yn rhan o’r Gronfa Arloesedd. Maen nhw’n arddangos cymaint sy’n gallu cael ei gyflawni drwy gydweithio agos, a sut gall ymdrechion traws-ddiwydiant arwain at syniadau sy’n sbarduno cynnydd yn y sector, ac yn effeithio ar yr amgylchedd a chymdeithas hefyd.

Stream

Creu platfform ar gyfer rhannu data traws-sector

Mae Stream, dan arweiniad Northumbrian Water, yn fenter uchelgeisiol sy’n dwyn ynghyd 15 o gwmnïau i ddarparu seilwaith rhannu data a fydd yn sbarduno arloesedd data, yn ogystal â gwella tryloywder ac atebolrwydd.

Mae galw cynyddol gan gwmnïau dwr i archwilio’r manteision posibl o ddefnyddio data agored fel teclyn i alluogi arloesedd. Hyd yma, mae pob cwmni dwr wedi bod yn cyflwyno gwybodaeth yn wahanol, gyda llawer o’r ymdrechion yn cael eu dyblygu, dim llawer o gysondeb, a llai o gyfle i ymchwilio a chymharu cyfresi data. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd datrys heriau cymhleth y diwydiant. Bydd Stream yn datblygu glasbrint er mwyn nodi ffordd o rannu pob math o ddata (o ddata amgylcheddol i ollyngiad a defnydd) a fydd yn gyson ar draws y diwydiant.

Drwy edrych ar ddata sydd ar gael yn ‘gyhoeddus’ rhwng cwmniau, gall y sector fagu dealltwriaeth fanwl a chywir o broblemau cyffredin, a dechrau archwilio datrysiadau. Gall rhannu data yn well alluogi arloeswyr i daclo problemau allweddol sy’n gyffredin i’r sector cyfan – atal achosion amgylcheddol, lleihau allyriadau carbon yn ymwneud â dŵr a lleihau costau i gwsmeriaid.

Y nod yn y pen draw yw creu platfform Data Agored a fydd yn gweithredu fel un pwynt mynediad i rannu data mewn ffordd sy’n hwyluso canfod, dealltwriaeth a mynediad rhwydd. Nid yw’n wyddys eto beth fydd arloeswyr, newyddiadurwyr neu aelodau o’r cyhoedd â diddordeb yn ei wneud â’r data hwnnw. Fodd bynnag, bydd cyflwyno’r data yn unffurf ac mewn fformat dealladwy, ochr yn ochr â chyd-destun busnes perthnasol yn creu posibiliadau – er enghraifft, gall gwyddonydd data lawr lwytho cyfres data a chreu teclyn newydd sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid os oes digwyddiad llygredd yn agos iddyn nhw. Nod y prosiect yw cynyddu tryloywder ac ymddiried yn y sector dwr yn ogystal â sbarduno rhagor o arloesedd wrth ddatrys rhai o’r heriau mwyaf y mae’r sector yn eu hwynebu.

Unlocking-Digital-Twins

Datrys pos yr Efeilliaid Digidol ar gyfer y sector dwr

Yn yr un modd, mae prosiect Unlocking Digital Twins Thames Water yn bwriadu creu safonau data ledled y diwydiant, fel y gall cwmniau dwr ddefnyddio’r un algorithmau ar gyfer arloesedd ar sail data.

Gefell digidol yw copi rhithwir o ased ffisegol, proses neu system sy’n edrych ac yn ymddwyn yn union yr un peth â’i wrthran bywyd go iawn. Mae gefell digidol yn efelychu prosesau a gall ddarogan deilliannau perfformiad posibl a materion y gall y cynnyrch bywyd go iawn eu hwynebu. Gan ddefnyddio gefell digidol, gall cwmniau dwr greu modelau sy’n gwella prognostig, a fydd yn eu helpu i gynnal yr asedau ffisegol yn y rhwydwaith dwr. Ar hyn o bryd, mae risg fod pob cwmni’n creu system ar wahân, sydd ond yn gweithio yn y system honno, ac sy’n methu â rhyngweithio â gefeilliaid eraill a all gael eu datblygu yn rhywle arall. Ond, gyda chyfres gytunedig o safonau, gall y diwydiant fynd ymhellach wrth geisio datrys problemau, a hynny yn gynt hefyd.

Mae Thames Water wedi bod yn defnyddio gefeilliaid digidol i fynd i’r afael â gollyngiadau a rheoli asedau. Mae pennu safonau a rennir ar gyfer gefeilliaid digidol yn golygu pan fydd un cwmni’n creu datrysiad sy’n helpu i leihau gollyngiadau, gall datblygwr greu meddalwedd newydd unwaith a sicrhau ei fod ar gael yn agored, yn hytrach na gorfod mynd drwy’r broses hir o geisio ei integreiddio i systemau cwmni gwahanol ac amrywiol. Bydd yn gyflym i’w integreiddio a gall fod yn berthnasol i gwmnïau eraill sydd wedi mabwysiadu’r un safonau.  Gall enghraifft arall gynnwys defnyddio gefeilliaid digidol i fodelu taith cwsmer mewn canolfan alwadau, fel bod modd cysylltu’r galwr â’r unigolyn priodol mor gyflym ag sy’n bosibl.

Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn gweithio ar nodi manylion sut i gydweithio’n effeithiol. Mae’r tîm yn gweithio ag egwyddorion ystwyth; os bydd y prosiect yn methu, bydd yn methu’n gyflym, ond bydd hefyd wedi creu dealltwriaeth well o’r hyn sydd ei angen i greu safonau ledled y sector. Os caiff safonau eu mabwysiadu a’u gwella dros amser, dylai fod yn bosibl lleihau yn sylweddol yr amser sy’n cael ei dreulio yn ceisio darparu gwerth i fwy o gwsmeriaid.

Tuag at Farchnad Newydd ar gyfer Bioadnoddau

Yn draddodiadol, mae cwmniau dwr wedi bod yn gyfrifol am drin eu dŵr aflan eu hunain yn eu ffatrïoedd trin eu hunain. Mae’r diwydiant wedi bod yn archwilio ers tro a allai fod datrysiad gwell i drin y llaid gweddilliol a gynhyrchir fel isgynnyrch o’r broses trin dwr, neu ‘bioadnoddau’.

Mae gan Anglian Water fwy na 1,000 o safleoedd ailgylchu dŵr. O’r rhain, cesglir y llaid a chaiff ei symud drwy biblinell neu drafnidiaeth ffordd i ddeg o ganolfannau gwahanol sy’n ei drin cyn ei ailgylchu at ddibenion amaeth (fel cyflyrydd pridd) a defnyddio’r bionwy – isgynnyrch llaid arall – i gynhyrchu pŵer adnewyddadwy.

Ar hyn o bryd, mae cwmniau dwr i gyd yn edrych ar ôl triniaeth eu dŵr aflan eu hunain o few neu ffiniau daearyddol eu hunain. Bydd y prosiect newydd hwn yn edrych ar a yw hi’n bosibl i gwmnïau gydweithio ac anfon neu dderbyn gwastraff i neu gan gwmni gwahanol. Mae hyn yn golygu y gellid mynd â’r llaid i’r ffatri agosaf sydd ar gael i’w brosesu, hyd yn oed os yw wedi’i leoli dros ffiniau daearyddol neu i ffatri cwmni dwr arall.

Pe byddai system o’r fath ar waith, byddai’n arbed yr adnoddau a’r ynni sydd ynghlwm wrth gludo llaid dros bellteroedd hir. Yn y pen draw, gallai trydydd parti allanol fod yn gyfrifol am drin bioadnoddau – byddai hyn hefyd yn hyrwyddo cystadleuaeth a allai arwain at ragor o effeithlonrwydd. Mewn theori, gellid trin bioadnoddau o ddŵr aflan yn yr un ffatrïoedd â gwastraff bwyd wedi’i ailgylchu – er hyn, er ei fod yn bosibl yn dechnegol, ar hyn o bryd, mae’n gymhleth iawn oherwydd y rheoliadau beichus sydd ar waith.

Bydd y prosiect Unlocking Bioresources Market Growth yn archwilio’r risgiau a’r gwobrwyon sydd ynghlwm wrth gydweithio. Dros y flwyddyn nesaf, bydd arbenigwyr yn ymchwilio ac yn modelu’r ffyrdd posibl y gallai’r sector gydweithio a deall mwy am y manteision. Nid yn unig y byddai’n arwain at arbedion costau, a ellid eu rhannu â chwsmeriaid, ond hefyd lleihau allyriadau carbon drwy leihau’r broses o gludo llaid. Bydd y prosiect yn adnabod cyfleoedd cydweithio posibl fel y gall cwmniau dwr eu hystyried yn rhan o’u strategaethau hirdymor i adeiladu sector gwydn ar gyfer y dyfodol.

Support-for-all

Rhannu data ar draws diwydiannau i gefnogi cwsmeriaid agored i niwed yn well

Mae gwasanaethau cyfleustodau yn berchen ar gofrestrau gwasanaethau â blaenoriaeth (yn Saesneg, priority services registers, neu PSRau), sef manylion cwsmeriaid mewn amgylchiadau agored i niwed neu ag anghenion ychwanegol, fel bod modd eu cefnogi’n well. Gall y rhain fod yn nam gweledol, sy’n golygu bod angen cyfathrebu â phrint mawr â rhywun neu wasanaeth cyfieithydd ar y pryd os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf. Mae pobl eraill a fyddai angen cymorth ychwanegol mewn achos diffyg dŵr neu ynni oherwydd anghenion meddygol neu broblemau symudedd – megis cludo poteli dwr i’w drysau neu ffynhonnell ynni amgen.

Ar yn o bryd, mae gan bob darparwr gofrestr unigryw, ond mae Support for All yn cyfuno’r rhain er mwyn cyrraedd yn well a chefnogi’r rhai a allai fod angen gwasanaeth wedi’i deilwra. Y syniad yw datblygu ac adeiladu platfform technoleg sy’n galluogi cwmniau dwr a chyfleustodau i rannu a storio data gwasanaethau â blaenoriaeth sensitif yn ddiogel. Bydd y prosiect yn dechrau drwy ddatblygu peilot rhanbarthol gyda nifer fach o weithredwyr ynni a dŵr, gydag uchelgeisiau i brofi ac ymestyn yn genedlaethol os yw’n llwyddiannus.

Dechreuodd y syniad, dan arweiniad Northumbrian Water, yn ystod gŵyl arloesedd blynyddol y cwmni yn 2021, gan ddwyn ynghyd y sector dwr, y GIG, elusennau, cymorth trydydd sector, data a chwmnïau cyfleustodau eraill. Roedd hi’n glir fod rhai cwsmeriaid yn rhannu eu hanghenion â chofrestrau rhai cwmniau, ond nid pob un. Man cychwyn y tîm oedd edrych sut y gellid ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid rannu eu hanghenion gyda phob sefydliad perthnasol drwy ddarparu un pwynt mynediad – gan leihau’r straen a’r baich o ran pob darparwr cyfleustodau yn gorfod diweddaru yn unigol.

Mewn treialon cynnar rhwng dim ond dau gwmni’n rhannu data, amcangyfrifwyd bod hyd at 36% o enwau ar restr cwmni dwr yn anhysbys i gwmni ynni, a hyd at 63% o enwau ar restr y cwmni ynni yn anhysbys i gwmni dwr. Mae cofrestr pob cwmni yn cynnwys degau o filoedd o enwau, felly drwy rannu data hyd yn oed rhwng dau gwmni yn unig, bydd miloedd o gwsmeriaid agored i niwed yn elwa.

Mae’r prosiect wedi dwyn ynghyd dros 30 o sefydliadau. Mewn ymdrechion pellach i arloesi ers yr ŵyl, mae’r timau wedi ceisio mynd i’r afael â chymhlethdodau cydweithio, megis adeiladu meddalwedd i gefnogi cyfresi data tebyg a datrys gofynion cyfreithiol rhannu data. Mae swyddogion diogelu data a thimau cyfreithiol o bob sefydliad wedi cydweithio i sicrhau bod modd adeiladu’r platfform mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Yn y tymor hir, mae posibiliadau’r prosiect yn mynd y tu hwnt i gyfleustodau yn unig. Gallai ddod â’r trydydd sector, asiantaethau cymorth, elusennau ac awdurdodau lleol ynghyd i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y gefnogaeth ddigonol; neu hyd yn oed ymestyn i ddarparu cymorth ariannol neu gydweithio â’r GIG, gyda’r gobaith o ddarparu siop un stop o gefnogaeth y tu allan i gyfleustodau.

Wrth i’r diwydiant dwr edrych ymlaen at effeithiau tebygol newid hinsawdd, gyda thywydd annarogan a’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ym mhob rhan o’r DU, mae’n glir y gall y sector archwilio a manteisio i’r eithaf ar syniadau effeithiol drwy rannu gwybodaeth yn gywir a chydweithio. Bydd cydweithio i wella rheolaeth ddŵr a lleihau baich amgylcheddol y sector, yn ogystal â chefnogi cwsmeriaid agored i niwed mewn argyfyngau yn hanfodol mewn blynyddoedd i ddod.

Water4All

Trin dŵr a thlodi tanwydd

Mae oddeutu tair miliwn o aelwydydd yn y DU eisoes angen cymorth gyda biliau cyfleustodau angenrheidiol, ac mae hynny cyn y ffaith fod amcangyfrifon y bydd costau ynni yn cynyddu’n sylweddol. Ar hyn o bryd, nid oed gan gyflenwyr gronfa ddata cydlynol er mwyn adnabod y cwsmeriaid hyn, sy’n golygu fod pobl sydd mewn perygl yn ariannol yn gorfod egluro eu sefyllfa sawl gwaith i gwmnïau cyfleustodau amrywiol i gael y cymorth sydd ei angen. Nid yn unig y mae hyn yn cymryd amser, ond i lawer o bobl, mae hefyd yn codi cywilydd mewn cyfnod o straen aruthrol.

Mae Water4All, menter newydd dan arweiniad Southern Water, yn gobeithio goresgyn hyn drwy gydweithio â chwmniau cyfleustodau mawr eraill ac arbenigwyr data i greu a chyflwyno cronfa ddata ganolog i gwsmeriaid sy’n profi bregusrwydd ariannol. Byddai hyn yn galluogi llawer o gyflenwyr i wybod pwy sydd angen cymorth, a mynd atynt yn rhagweithiol i gefnogi. Byddai hyn yn atal cywilydd i’r cwsmer, yn arbed costau sylweddol o ran eu biliau a lleihau eu holion traed carbon drwy ddefnyddio dŵr yn gallach.

Ymhellach i hyn, mae rhaglen Water4All yn nodi lle mae’r cwsmeriaid hyn yn colli allan ar incwm ychwanegol. Bydd cymorth a ddarperir drwy wasanaeth uchafu incwm yn darparu £2,500 ar gyfartaledd yn ychwanegol o incwm di-dreth. Dylai hyn fod yn ddigon i dalu costau’r argyfyngau costau byw presennol. Yn ogystal, bydd aelwydydd cymwys yn ennill mesurau eco am ddim i leihau eu biliau ymhellach. Mae Water4All yn defnyddio peth o’r amcangyfrif o £15 biliwn o fudd-daliadau sydd heb eu hawlio, sy’n eistedd yn nwylo Trysorlys EM, a’i roi yn syth ym mhocedi cwsmeriaid. Awgryma ymchwil diweddar mai dim ond 6% o’r bobl sydd angen cymorth ariannol sy’n gofyn am help, yn rhannol oherwydd cywilydd ac yn rhannol oherwydd nid yw llawer yn gwybod fod help ar gael. Os oes modd helpu cwsmeriaid yn gynt, gallant osgoi rhagor o ddyledion drwy fanteisio ar gymorth gan eu darparwyr cyfleustodau, addasu eu tueddiadau dwr a dod yn fwy cyfeillgar yn amgylcheddol yn y broses.

Mae llawer o’r data sydd ei angen ar gyfer y prosiect ar gael – bydd Water4All yn dod â phopeth at ei gilydd ac yn sicrhau bod y data ar gael i’r diwydiant mewn fformat dealladwy. Yn rhan o hyn, bydd y cwmni datrysiadau data, Sagacity yn gweithio gydag arbenigwyr amlsector i gyfuno gwybodaeth y diwydiant ac arbenigedd manwl gyda data, er enghraifft, o swyddfeydd credyd a’r Gofrestrfa Tir.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, gall cronfa ddata Water4All adeiladu proffiliau cwsmeriaid sy’n nodi pobl sy’n agored i niwed yn ariannol a rhannu hyn gyda diwydiannau cyfleustodau eraill megis ynni, telegyfathrebu a gwasanaethau ariannol. Bydd y datrysiad arloesol a chymhleth hwn yn galluogi cyflenwyr i gydweithio ar gefnogi pobl sydd mewn caledi – gan eu cyrraedd nhw yn y ffordd gywir, ar yr adeg gywir.

Os nad yw cwmniau’n gwybod fod cwsmer yn agored i niwed yn ariannol, ni allant helpu. Ar y llaw arall, os ydyn nhw’n ymwybodol, gallant helpu a chodi ffioedd cywir ar gwsmeriaid i atal costau annisgwyl. Mae’r fenter hon yn gweithio ar yr egwyddor ceisio a gwasanaethu – lle bydd y cwmniau cyfleustodau yn adnabod unigolion sydd agored i niwed yn ariannol, cynnig cymorth a’u hatal rhag gorfod poeni am rannu eu sefyllfa â llawer o gyflenwyr sawl gwaith.

Mae’r prosiect megis dechrau, a newydd sicrhau cyllid am yr elfen prawf cysyniad, ond mae ganddo botensial mawr i helpu cwsmeriaid sydd fel arfer ddim yn estyn allan am gymorth, neu’n gofyn am gymorth ar ôl blwyddyn o fod angen help. Mae’r arloeswyr o’r farn y gallant helpu’r cwsmeriaid hynny sydd dan straen yn ariannol i arbed hyd at £2,500 ar filiau a sicrhau buddion newydd gan dariffau gwell, cyngor ar ddŵr ac arbed ynni a mesurau effeithlonrwydd, megis cynlluniau talu dros gyfnodau hir.

Drwy helpu cwsmeriaid i gael gafael ar yr ystod lawn o gymorth sydd ar gael iddynt ledled y cyfleustodau, mae Water4All yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i bawb – gan gyfrannu at les ariannol cwsmeriaid a hyrwyddo tueddiadau dwr sydd fwy cyfeillgar yn amgylcheddol.

Ddim yn gweithio yn y diwydiant dwr ond yn awyddus i gymryd rhan? Bydd Water Discovery Challenge yn croesawu arloesedd sy’n torri tir newydd gan unrhyw un mewn unrhyw sector o fis Ionawr 2023. Rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://waterinnovation.challenges.org/water-discovery-challenge/ 

Gallwch gael rhagor o #WaterInspiration drwy ddysgu mwy am enillwyr blaenorol ein cystadlaethau arloesedd ar https://waterinnovation.challenges.org/winners

Os hoffech gael cymorth wrth ddod yn bartneriaid â chwmniau dwr, siaradwch â chyflymydd y diwydiant dwr yn y DU – Spring (sydd hefyd yn enillydd blaenorol ein cystadleuaeth arloesedd). Os oes gennych gynnyrch neu wasanaeth presennol a diddordeb mewn dod yn gyflenwr i gwmniau, siaradwch â British Water neu’r Future Water Association.