Choose A Language
Arloesi o ran dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

Arloesi o ran dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd

December 14, 2022

climate-change cymraeg wastewater water-breakthrough-challenge welsh

Yn y cyfnod yn arwain at gyhoeddi enillwyr ffrwd Catalydd ein hail her Water Breakthrough Challenge (‘Breakthrough 2’), rydym yn tynnu sylw at enillwyr ein Water Breakthrough Challenge gyntaf gyda chyfres o gyfweliadau ac astudiaethau achos – yr wythnos hon, byddwn yn cwrdd â thri thîm sy’n gweithio i leihau nwyon  sy’n achosi newid yn yr hinsawdd a chyflawni ymrwymiadau uchelgeisiol y sector o ran yr hinsawdd. Wedi colli un yr wythnos diwethaf? Gallwch weld y cynlluniau arloesol sy’n seiliedig ar ddata yma.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei adroddiad diweddaraf, yn amlinellu’r ffyrdd y mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn effeithio ar bobl ledled y byd, gan nodi ac ailnodi angen brys i lywodraethau a diwydiant weithredu.

Mae sector dŵr y DU yn mynd i’r afael â’r her hon yn uniongyrchol, gyda’r ymrwymiad byd-eang cyntaf ar draws y sector i gyrraedd sero net o ran nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd erbyn 2030 ac, fel y cydnabyddir ym mhapur sefyllfa egwyddorion sero net Ofwat, mae eisoes wedi lleihau allyriadau gweithredol gros gan bron i 45% rhwng 2011 a 2019.

Drwy’r Gronfa, ein nod yw cynyddu’r ymdrechion hyn i leihau nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd drwy gefnogi cwmnïau dŵr i weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd newydd a gwahanol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu ar y cyd. Mae ein cystadleuaeth gyntaf, yr Her Arloesi mewn Dŵr, eisoes wedi ariannu nifer o fentrau hynod gydweithredol  i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac mae’r momentwm hwn wedi parhau yn ein cystadleuaeth Water Breakthrough Challenge 1.

Darllenwch ymlaen am gyfweliadau gyda thri enillydd sy’n helpu’r sector i leihau nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd, a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Lleihau Carbon Triphlyg

Yng nghynhadledd hinsawdd ddiweddar COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, nodwyd bod lleihau nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd mewn prosesau trin dŵr a thrin dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio, yn flaenoriaeth allweddol i’r sector dŵr. Mae’r prosiect hwn, dan arweiniad Anglian Water mewn partneriaeth â chwmnïau dŵr, prifysgolion a phartneriaid diwydiannol niferus, yn anelu at gyflawni tri gostyngiad sylweddol drwy ddefnyddio technoleg pilen arloesol a elwir yn ‘Adweithydd Bioffilm a Awyrir gan Bilen’ i lanhau dŵr sydd wedi’i ddefnyddio.

Mae’n cael ei alw’n ‘Lleihau carbon triphlyg’ gan ei fod yn lleihau’r nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd mewn tair ffordd: (1) Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio llai o bŵer na systemau traddodiadol; (2) mae’n lleihau faint o ocsid nitraidd (nwy tŷ gwydr sy’n fwy na 300 gwaith mwy pwerus na charbon deuocsid) sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer; a (3) yn cynhyrchu ffynhonnell newydd carbon isel o hydrogen y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu, storio a chludo ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.

Dulliau gwahanol o gael gwared â ffosfforws mewn gwaith trin dŵr gwastraff gwledig

Gall ffosfforws, os na chaiff ei ffrwyno, fod yn niweidiol iawn i amgylcheddau dŵr, gan hybu twf algaidd gormodol ac amddifadu pysgod ac anifeiliaid dŵr eraill o ocsigen. Fel arfer, mae cwmnïau dŵr yn dibynnu ar geulyddion seiliedig ar fetel (cemegion sy’n achosi i ronynnau mewn dŵr ‘glystyru’ gyda’i gilydd) i dynnu’r ffosfforws hwn o’r dŵr gwastraff y maent yn ei drin, ond mae cynhyrchu a chludo’r cemegion hyn yn cynhyrchu llawer iawn o nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Gyda’r defnydd o’r cemegau hyn yn debygol o gynyddu’n sylweddol erbyn 2025, gallai dull amgen arwain at fanteision sylweddol i’r hinsawdd.

Drwy’r prosiect hwn, bydd United Utilities a’i bartneriaid yn archwilio opsiynau heb gemegau ar gyfer tynnu ffosfforws sy’n gallu lleihau ôl-troed carbon trin dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio, heb gael effaith negyddol ar ansawdd dŵr. Mae’r opsiynau hyn yn amrywio o electrogeulo (gan ddefnyddio adweithiau trydanol i gasglu gronynnau at ei gilydd), i geulwyr naturiol neu sy’n seiliedig ar blanhigion, a byddant yn cael eu treialu mewn dŵr gwastraff gwledig sy’n wynebu heriau unigryw ar gyfer triniaeth heb gemegau. Os bydd yr opsiynau hyn yn gweithio, gellid eu defnyddio mewn unrhyw waith trin dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio yn y DU, neu o amgylch y byd.

Trawsnewid cydbwysedd ynni trin dŵr gwastraff

Yn aml, gall 30-40% o’r nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd a gynhyrchir gan gwmni dŵr ddeillio o drin a rheoli dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio. Dyna pam mae wyth cwmni dŵr, dan arweiniad Thames Water, yn cydweithio â’r byd academaidd i gynhyrchu prosesau trin ‘anaerobig’ (proses heb ocsigen) nad yw’n rhyddhau ocsid nitraidd, nwy pwerus sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae gan y prosesau hyn y potensial i leihau’r defnydd o ynni’n sylweddol (gan fwy na 80%), a dileu nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd bron yn llwyr. Yn ogystal â’r gostyngiadau helaeth mewn nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd, bydd y broses arloesol hon hefyd yn sicrhau arbedion cost mawr y gellir eu trosglwyddo i gwsmeriaid. Bydd y broses anerobig yn cynhyrchu bio-nwy (nwy o brosesau biolegol) y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni i helpu i bweru’r gwaith trin gan leihau’r galw ar y grid cenedlaethol. Bydd y broses hefyd yn lleihau 96% ar faint y slwtsh (y solidau sy’n weddill ar ôl trin dŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio), gan leihau costau cludo a rheoli’r gwastraff hwn yn sylweddol.

Drwy’r project hwn, bydd Thames Water a’i bartneriaid yn profi’r broses anaerobig newydd gyda safle peilot symudol. Bydd hyn yn eu galluogi i weld sut y gellir defnyddio’r dull mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan osod y sylfeini ar gyfer mabwysiadu’r ateb hwn yn genedlaethol.

Byddwn yn rhannu’r tri chyfweliad olaf yr wythnos nesaf, a byddwn yn cyhoeddi enillwyr ffrwd Catalydd Breakthrough 2 yn fuan wedyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Ofwat ar Twitter a LinkedIn, ac yn tanysgrifio i’n Cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dyma’r ffordd orau hefyd o gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd i bartneru yn y dyfodol a chwarae rhan yng Nghronfa Arloesi Ofwat. Rydyn ni’n disgwyl rhannu newyddion am ein cystadlaethau nesaf dros yr Haf – cadwch eich llygaid ar agor!