Archwilio’r cysyniad o gartrefi newydd clyfar dŵr
Wrth i boblogaeth y DU dyfu, felly mae’r galw am ddŵr, ac mae’r angen i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon yn dod yn fwy pwysig. Mae rhai rhanbarthau eisoes wedi cyrraedd eu capasiti o ran defnydd dŵr. Mae rhanbarthau eraill dan straen dŵr ac os bydd cartrefi newydd yn parhau i gael eu hadeiladu fel y maen nhw ar hyn o bryd, bydd y galw cynyddol yn rhoi’r amgylchedd dan gryn straen. Ac eto, pan fydd datblygiadau tai newydd yn cael eu cynllunio, mae cyfle i ailfeddwl sut mae dŵr yn cyrraedd y tapiau ac i weithio gyda’r diwydiant adeiladu i wneud pethau’n wahanol.
Er enghraifft, pam mae toiledau’n cael eu fflysio â dŵr sydd wedi’i drin? Mae’r rhwydweithiau dŵr presennol yn darparu un ffynhonnell o ddŵr yfed glân i gartrefi sy’n hanfodol ar gyfer coginio ac yfed. Fodd bynnag, nid oes gwir angen defnyddio dŵr ‘yfed’ i fflysio toiledau ac i gael cawod.
Mae Enabling Water Smart Communities yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Anglian Water ar y cyd â Thames Water, United Utilities, timau o Brifysgolion Manceinion ac East Anglia a chyrff arbenigol eraill o amrywiaeth o sectorau. Mae’n edrych o’r newydd ar sut y defnyddir adnoddau mewn datblygiadau tai newydd ac yn canolbwyntio ar sut i leihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys ailddefnyddio dŵr llwyd (dŵr sydd wedi’i ddefnyddio o sinciau, cawodydd a pheiriannau golchi dillad) lle bo modd, rheoli adnoddau gyda systemau storio newydd i atal llifogydd, a dod o hyd i ffyrdd newydd o drin dŵr a dŵr gwastraff.
Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda datblygwyr tai i ddod o hyd i safleoedd lle gellir profi a mesur dulliau newydd o ddefnyddio dŵr yn y cartref. Mae llawer o’r syniadau sy’n cael eu hystyried eisoes ar waith mewn rhannau o’r byd sydd dan straen dŵr, fel Awstralia a De Affrica, a bydd y tîm yn edrych ar y ffordd orau o’u hintegreiddio mewn cartrefi ym Mhrydain, yn ogystal â sut y gallai fod angen addasu’r rheoliadau presennol.
Er enghraifft, efallai y bydd cymuned sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon yn gweld ail bibell sy’n cynnwys dŵr na ellir ei yfed yn cael ei gosod ar dai a fydd yn mynd i’r peiriant golchi, y toiled a’r tap tu allan. Drwy ailddefnyddio dŵr llwyd a dŵr glaw sydd wedi’i gasglu, mae modelau’n dangos y gellir lleihau galw cartrefi am ddŵr gan 30-50%.
Os gall y prosiect ddangos llwyddiant a helpu aelwydydd i leihau, neu hyd yn oed haneru faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio, yna cartrefi sy’n ddoeth o ran dŵr fydd y dyfodol.
Ennill cyllid ar gyfer eich #WaterBrightIdea
Ddim yn gweithio yn y diwydiant dŵr ond wedi meddwl am syniad ar sut i helpu i leihau galw? Bydd y Water Discovery Challenge yn croesawu datblygiadau arloesol gan unrhyw un mewn unrhyw sector o fis Ionawr 2023. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: waterinnovation.challenges.org/water-discovery-challenge/
Gweithio yn y diwydiant dŵr ac wedi’ch ysbrydoli? Mae Water Breakthrough Challenge 3 ar agor ar gyfer ceisiadau tan fis Rhagfyr 2022: waterinnovation.challenges.org/breakthrough3/catalyst/
Oes gennych chi syniad gwych ond angen amser i baratoi eich cais? Bydd rownd nesaf y Water Breakthrough Challenge yn agor yn ddiweddarach yn 2023.