Ni ddaw helynt ei hunan

Ni ddaw helynt ei hunan

December 14, 2022

breakthrough-2 climate-change customers cymraeg get-involved innovation resilience water water-breakthrough-challenge water-use welsh winners

Mynd i’r afael â sychder a llifogydd er mwyn creu dyfodol cadarn

Yn 2022, gwelodd y DU un o’r hafau poethaf a sychaf i gael ei gofnodi erioed gyda’r tymheredd yn cyrraedd dros 40 gradd Celsius am y tro cyntaf. Effeithiodd hyn ar gyflenwad dŵr cyhoeddus, amaethyddiaeth, a bywyd gwyllt.

Wrth i’r diwydiant dŵr addasu i dywydd mwy eithafol ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, mae’n debygol y bydd digwyddiadau o’r fath yn dod â chyfnodau o dywydd sych iawn i’r DU, yn ogystal â stormydd a llifogydd. Mae’n amlwg bod angen rheoli sut rydym yn dal gafael ar ddŵr yn well, megis adeiladu ffynonellau dŵr newydd neu leihau gollyngiadau. Ond mae hefyd angen i ni ddefnyddio dŵr yn fwy doeth. Ac mae cymhlethdod gwneud yn siŵr bod digon o’r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer pobl a’r blaned yn golygu bod angen mwy o atebion cydgysylltiedig, cydweithredol ac arloesol arnom.

Fe welwch isod ddetholiad o hanesion am brosiectau buddugol o Gronfa Arloesi Ofwat sy’n edrych ar ddulliau newydd i’n helpu i leihau’r galw am ddŵr, mynd i’r afael â sychder a llifogydd, a sicrhau bod ein system ddŵr yn barod at y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau arloesol sy’n:

  • rhagweld faint o ddŵr sydd ei angen;
  • helpu pobl i storio dŵr glaw; a
  • gwneud ein cartrefi’n fwy effeithlon o ran dŵr.

Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli, gallwch hefyd ddysgu sut mae ennill cyllid ar gyfer eich #WaterBrightIdea isod.

Sub-seasonal-forecasting

Defnyddio rhagolygon tywydd is-dymhorol i ragweld y galw am ddŵr

Mae’r sector dŵr bob amser wedi gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Dywydd i ragweld y galw am ddŵr, ond mae’r prosiect Sub Seasonal Forecasting, dan arweiniad Thames Water, wedi dangos sut y gall cydweithio agosach a rhannu data greu rhagfynegiadau mwy cywir ar gyfer y diwydiant dŵr.

Mae rhagolygon tywydd confensiynol yn rhoi rhagfynegiadau 10-14 diwrnod ymlaen llaw, tra bo’r system sy’n cael ei datblygu yn caniatáu i gwmnïau dŵr edrych ar y tymor hwy a chynllunio hyd at chwe wythnos ymlaen llaw.

Gyda newid yn yr hinsawdd yn ysgogi digwyddiadau tywydd mwy eithafol, mae’n bwysig cael amser i ymateb a pharatoi. Dim ond yn araf bach y gellir cynyddu neu leihau capasiti cynhyrchu, felly mae gwybod bod tywydd poeth neu oer ar y ffordd yn golygu bod modd dechrau’r broses o drin dŵr ychwanegol yn gynt. Gan ddefnyddio data ynghylch galw a thywydd dros y deg mlynedd diwethaf, gall arbenigwyr ragweld yn fwy cywir beth fydd yn digwydd a rhagweld cynnydd yn y galw a achosir gan ddigwyddiadau’r tywydd.

Mae’r prosiect wedi’i leoli yn Llundain, ond unwaith y bydd wedi’i sefydlu caiff ei ymestyn i’r siroedd cartref a Dyffryn Tafwys. Gall y rhanbarth hwn, sy’n ymestyn i’r gorllewin o Swindon, weld tywydd gwahanol iawn i Lundain, felly bydd hyn yn galluogi’r tîm i weld pa mor dda mae’r model yn gweithio mewn ardal ddaearyddol wahanol. Wedyn bydd y gwasanaeth yn cael ei deilwra a’i gyflwyno’n raddol i naw cwmni dŵr arall ledled y DU.

Mae manteision enfawr i’r cyhoedd wrth i gwmnïau dŵr feddu ar ddealltwriaeth gywir o’r tywydd a’r galw am ddŵr yn y tymor hir – er enghraifft, pan oedd y pibellau a oedd wedi rhewi yn sgil y Dihiryn o’r Dwyrain yn 2018 wedi dadmer yn sydyn, roedd y galw am ddŵr wedi cynyddu’n gyflym iawn. Byddai’r rhagfynegydd newydd hwn yn galluogi cwmnïau dŵr i gynllunio ymlaen yn unol â hynny.

Community-centric

Prosiect arloesol i reoli dŵr glaw yn mynd rhagddo

Dros y ganrif ddiwethaf, mae ein hardaloedd trefol wedi mynd yn fwyfwy anhreiddiadwy i ddŵr glaw, gydag arwynebau palmantog yn atal dŵr glaw rhag treiddio i’r ddaear. Mae toeau a ffyrdd, patios a llwybrau oll yn dal dŵr glaw ac yn ei sianelu i’n draeniau a’n carthffosydd, yn hytrach nag yn ôl i’r ddaear lle byddai’n ailymuno â’r system ddŵr yn y pen draw.

Mae newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu at gynnydd mewn cawodydd sydyn a thrwm, a gall systemau draenio presennol y DU gael eu llethu’n gyflym pan fydd storm, neu os bydd cawod drom ar ôl ychydig o wythnosau sych iawn.

Er mwyn lliniaru hyn, mae’r tîm Community-Centric Rainwater Management dan arweiniad Thames Water, yn treialu ateb posibl ar y cyd â pherchnogion tai, gan edrych ar osod technoleg storio dŵr glaw, sef Systemau Draenio Cynaliadwy (yn Saesneg, SuDS), mewn cymunedau. Gall y systemau hyn helpu i reoli llif dŵr glaw, rheoli cyflymder dŵr ffo oddi ar arwynebau caled, a lleihau effaith trefoli ar y system ddŵr gan ddarparu dŵr glaw i gymunedau i’w ddefnyddio’n lleol.

Mae’r tîm yn edrych ar y syniad o osod casgenni dŵr wedi’u dylunio’n arbennig yng ngerddi cwsmeriaid. Mae’r syniad wedi cyrraedd y cyfnod archwiliadol, ond gallai’r casgenni dŵr hyn wasanaethu dau ddiben o bosibl; lleihau’r posibilrwydd i garthffosydd gael eu llethu a gorlifo i ddyfrffyrdd, a storio dŵr glaw i gwsmeriaid ei ddefnyddio yn eu gerddi. Bydd y swyddogaeth olaf hon yn dod yn fwyfwy pwysig gyda chyfnodau o sychder yn fwy aml yn arwain at wahardd y defnydd o bibelli dŵr yn amlach yn y dyfodol.

Mae’r tîm Community Rainwater Management yn treialu’r ateb hwn drwy herio cymunedau i brofi un dull o storio dŵr wedi’i ddosbarthu. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn lleihau effaith cawodydd trwm ar garthffosydd ac yn cyfyngu ar y perygl o orlifo.

Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall pwysigrwydd a manteision peidio â rhoi deunyddiau mewn safleoedd tirlenwi, ond ychydig iawn sy’n ymwybodol o sut y gall ffyrdd a phalmentydd effeithio ar y system ddŵr, ac felly’r amgylchedd. Mae’r cam tuag at ystyried sut y gall pob un ohonom helpu gyda dŵr cyfrifol yn debyg i’r newid sydd wedi digwydd o ran ailgylchu. Drwy’r prosiect, mae’r tîm yn dymuno egluro a gwella’r ddealltwriaeth hon, drwy weithio’n uniongyrchol gyda chymunedau unigol a materion lleol.

Yn y tymor hir, mae’n bosibl y bydd gosod storfa dŵr glaw fwy datganoledig yn lliniaru llifogydd, yn cyfyngu ar orlifiant dŵr storm ac ar yr un pryd yn darparu dŵr glaw i’w ddefnyddio’n lleol yn ystod cyfnodau o sychder. Bydd y prosiect hwn yn nodi’r gyrwyr a’r manteision ar gyfer storio dŵr glaw lleol ac yn archwilio sut mae datblygu cynlluniau o’r fath yn y dyfodol, gan ddod â manteision i unigolion, cymunedau a’r amgylchedd lleol.

Eddington-Water-Sustainability-Development-14-07-2022-_191_

Archwilio’r cysyniad o gartrefi newydd clyfar dŵr

Wrth i boblogaeth y DU dyfu, felly mae’r galw am ddŵr, ac mae’r angen i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon yn dod yn fwy pwysig. Mae rhai rhanbarthau eisoes wedi cyrraedd eu capasiti o ran defnydd dŵr. Mae rhanbarthau eraill dan straen dŵr ac os bydd cartrefi newydd yn parhau i gael eu hadeiladu fel y maen nhw ar hyn o bryd, bydd y galw cynyddol yn rhoi’r amgylchedd dan gryn straen. Ac eto, pan fydd datblygiadau tai newydd yn cael eu cynllunio, mae cyfle i ailfeddwl sut mae dŵr yn cyrraedd y tapiau ac i weithio gyda’r diwydiant adeiladu i wneud pethau’n wahanol.

Er enghraifft, pam mae toiledau’n cael eu fflysio â dŵr sydd wedi’i drin? Mae’r rhwydweithiau dŵr presennol yn darparu un ffynhonnell o ddŵr yfed glân i gartrefi sy’n hanfodol ar gyfer coginio ac yfed. Fodd bynnag, nid oes gwir angen defnyddio dŵr ‘yfed’ i fflysio toiledau ac i gael cawod.

Mae Enabling Water Smart Communities yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Anglian Water ar y cyd â Thames Water, United Utilities, timau o Brifysgolion Manceinion ac East Anglia a chyrff arbenigol eraill o amrywiaeth o sectorau. Mae’n edrych o’r newydd ar sut y defnyddir adnoddau mewn datblygiadau tai newydd ac yn canolbwyntio ar sut i leihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys ailddefnyddio dŵr llwyd (dŵr sydd wedi’i ddefnyddio o sinciau, cawodydd a pheiriannau golchi dillad) lle bo modd, rheoli adnoddau gyda systemau storio newydd i atal llifogydd, a dod o hyd i ffyrdd newydd o drin dŵr a dŵr gwastraff.

Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda datblygwyr tai i ddod o hyd i safleoedd lle gellir profi a mesur dulliau newydd o ddefnyddio dŵr yn y cartref. Mae llawer o’r syniadau sy’n cael eu hystyried eisoes ar waith mewn rhannau o’r byd sydd dan straen dŵr, fel Awstralia a De Affrica, a bydd y tîm yn edrych ar y ffordd orau o’u hintegreiddio mewn cartrefi ym Mhrydain, yn ogystal â sut y gallai fod angen addasu’r rheoliadau presennol.

Er enghraifft, efallai y bydd cymuned sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon yn gweld ail bibell sy’n cynnwys dŵr na ellir ei yfed yn cael ei gosod ar dai a fydd yn mynd i’r peiriant golchi, y toiled a’r tap tu allan. Drwy ailddefnyddio dŵr llwyd a dŵr glaw sydd wedi’i gasglu, mae modelau’n dangos y gellir lleihau galw cartrefi am ddŵr gan 30-50%.

Os gall y prosiect ddangos llwyddiant a helpu aelwydydd i leihau, neu hyd yn oed haneru faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio, yna cartrefi sy’n ddoeth o ran dŵr fydd y dyfodol.

Ennill cyllid ar gyfer eich #WaterBrightIdea

Ddim yn gweithio yn y diwydiant dŵr ond wedi meddwl am syniad ar sut i helpu i leihau galw? Bydd y Water Discovery Challenge yn croesawu datblygiadau arloesol gan unrhyw un mewn unrhyw sector o fis Ionawr 2023. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: waterinnovation.challenges.org/water-discovery-challenge/

Gweithio yn y diwydiant dŵr ac wedi’ch ysbrydoli? Mae Water Breakthrough Challenge 3 ar agor ar gyfer ceisiadau tan fis Rhagfyr 2022: waterinnovation.challenges.org/breakthrough3/catalyst/

Oes gennych chi syniad gwych ond angen amser i baratoi eich cais? Bydd rownd nesaf y Water Breakthrough Challenge yn agor yn ddiweddarach yn 2023.