CWRDD Â’R ENILLWYR
A HERU for Screenings – Wedi’i harwain gan Severn Trent – £198,144
Mae’r Home Energy Recovery Unit (HERU) yn system adfer gwastraff a ddatblygwyd i reoli gwastraff domestig a masnachol ar y safle. Yr un maint â rhewgell gist, mae’r datrysiad hwn yn defnyddio technoleg pibellau gwres a ddatblygwyd o loerenni, i drawsnewid sgriniadau yn ynni, y gellir ei ailgylchu. Mae’n ddatrysiad arloesol i broblem gwastraff gynyddol heriol i ddiwydiant dŵr y DU.
Catalysing a NET-ZERO future – Wedi’i harwain gan Severn Trent – £762,447
Un o ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr mwyaf o’r diwydiant dŵr yw ocsid nitraidd – mae 300 gwaith yn gryfach na charbon deuocsid. Mae’n cael ei gynhyrchu gan facteria sy’n chwarae rôl hollbwysig yn cael gwared ar amonia gwenwynig o ddŵr gwastraff. Os na chaiff yr amonia ei waredu, mae’n niweidio bywyd dyfrol. Mae ymchwilwyr wedi canfod bacteria sy’n cael ei greu’n naturiol yn ddiweddar sy’n gallu cael gwared ar amonia heb gynhyrchu ocsid nitraidd ond nid yw’r rhain yn ffynnu fel arfer mewn gweithfeydd trin. Bydd y prosiect hwn yn datblygu technegau arloesol i gasglu’r bacteria arloesol hyn a’u rhoi ar waith yn ein prosesau trin presennol.
Defusing the nitrate timebomb – Wedi’i harwain gan Portsmouth Water – £154,800
Mae llygredd nitraidd wedi bod yn fygythiad i ddŵr yfed Sialc ac amgylcheddau dibynnol ers tro yn Ne Lloegr. I leihau nitrad mewn dŵr yfed mae angen triniaeth ddrud neu newidiadau i arferion ffermio. Mae cwmnïau dŵr yn gweithio gyda ffermwyr i leihau allbynnau nitraidd, ond nid oes ganddynt wybodaeth fanwl o ran lle i ganolbwyntio eu hymdrechion er mwyn sicrhau canlyniadau cyflym, effeithlon. Bydd y prosiect yn datblygu meddalwedd modelu sy’n gallu rhagweld crynoadau drwy’r Sialc er mwyn gallu profi opsiynau defnyddio tir i ddewis y rhai sy’n gallu lleihau nitradau yn effeithlon. Bydd hyn yn lleihau costau triniaeth a’r defnydd o ynni ac yn helpu i ddiogelu cynefinoedd a bioamrywiaeth.
Designer Liner – Wedi’i harwain gan Yorkshire Water – £173,880
Mae leinio pibellau 50% yn rhatach na’r dull mwy traddodiadol o gloddio a gosod pibellau newydd yn lle rhai sydd wedi torri. Mae hefyd yn cynhyrchu llai o garbon ac mae’n creu llai o amhariad i gwsmeriaid oherwydd nid oes angen cloddio’r ffordd. Mae bwlch yn bodoli yn y farchnad ar hyn o bryd i ddarparu datrysiad leinin sy’n addas ar gyfer rhwydwaith dŵr yn yr 21ain ganrif. Bydd cwmnïau dŵr, o dan arweiniad Yorkshire Water, yn cydweithio i greu datrysiad leinin ar gyfer pibellau dŵr glân sydd ag oes hwy o lawer na’r leininau presennol, gyda’r posibilrwydd o gynnwys technolegau newydd hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhwydweithiau dŵr yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol ac yn eu galluogi i fod yn fwy clyfar nac erioed o’r blaen.
Pipebots for rising mains – Wedi’i harwain gan Thames Water – £230,930
Mae prif bibellau codi yn bibellau carthffosiaeth dan bwysau er mwyn gallu pwmpio carthffosiaeth i fyny bryniau i’w trin mewn gwaith trin carthion. Mae’n anodd arolygu’r pibellau hyn oherwydd mae’n anodd cael mynediad atynt a’u cau er mwyn gallu eu harchwilio yn fewnol. Bydd defnyddio robotiaid ar brif bibellau codi yn helpu’r diwydiant i ganfod, rhagweld a thrwsio pibellau sy’n dirywio, cyn iddynt fyrstio, ac atal llygredd i’r amgylchedd. Bydd y prosiect yn profi’r defnydd o robotiaid i asesu cyflwr mewnol y mathau hyn o bibellau er mwyn chwyldroi’r ffordd mae’r diwydiant yn gofalu am y math hwn o seilwaith. Mae’r diwydiant dŵr eisoes yn defnyddio robotiaid sy’n cael eu rheoli gan fodau dynol i asesu eu twneli a’u carthffosydd sydd wedi’u llenwi’n rhannol sy’n defnyddio disgyrchiant i symud carthion. Bydd y prosiect hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer defnyddio technoleg roboteg ymreolaethol mewn pibellau carthffosiaeth dan bwysau llawn.
Support For All – Wedi’i harwain gan Northumbrian Water – £632,270
Bydd “Support for All” yn cynnwys dylunio, adeiladu a chyflawni hwb i gynnal data ar gwsmeriaid mewn amgylchiadau agored i niwed – ac ar ôl ei gyflwyno unwaith, gellir rhannu’r data hwnnw gyda chyfleustodau eraill perthnasol. Mae gan bob cwmni cyfleustodau Gofrestrau Gwasanaethau Blaenoriaeth o gwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol, ac ar hyn o bryd mae’n rhaid i gwsmeriaid gofrestru gyda phob cwmni ar wahân – mae data anghywir yn golygu nad yw cymorth ychwanegol bob amser yn cael ei gynnig. Mae’r datrysiad newydd yn galluogi cwsmeriaid i ‘ddweud wrthym unwaith’, a fydd yn hysbysu pob cwmni cyfleustodau perthnasol o’r cymorth sydd ei angen arnynt. Y nod yw datblygu peilot o fodel ymarferol, ei gyflwyno ar lefel ranbarthol ac yna ei gyflwyno’n genedlaethol.
SuPR Loofah (Sustainable Phosphorus Recovery) – Wedi’i harwain gan Northumbrian Water – £445,577
Bydd Northumbrian Water, gyda Northumbria University, Newcastle University, a Dŵr Cymru yn treialu’r defnydd o lwffa arloesol i waredu ac adfer ffosfforws o ddŵr gwastraff. Mae hyn yn ei atal rhag achosi difrod i ordyfiant algâu, sy’n gallu tagu ecosystemau lleol. Bydd y system drin ‘SuPR Loofah’ arloesol hon yn gosod micro-algâu ar ddeunydd lwffa, ac yn ei ddefnyddio i gasglu ffosfforws o ddŵr gwastraff. Yn ogystal â bod yn broses fwy fforddiadwy a chynaliadwy i drin dŵr gwastraff, bydd y dull cylchol arloesol hwn yn cynhyrchu ffurf hollbwysig o ffosfforws, y gellir ei ddefnyddio fel gwrtaith.
Tap Water Forensics – Wedi’i harwain gan Severn Trent – £371,215
Bydd ein prosiect yn datblygu’r defnydd o ddilyniannu genetig wrth drin dŵr yfed. Yn wahanol i’r profion presennol, mae dilyniannu genetig yn gallu canfod yr holl rywogaethau bacterol sy’n bresennol mewn dŵr. Bydd hyn yn gwella cyflymder a chywirdeb ymchwiliadau ansawdd dŵr yn sylweddol. Ein gobaith yw y bydd cwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr yn elwa ar ostyngiad o £3-5 miliwn y flwyddyn i’w biliau, wedi’i alluogi gan effeithlonrwydd gwell mewn ymchwiliadau ansawdd dŵr; yn ogystal â gostyngiad mewn gwaith adfer heb ei gynllunio a llai o amhariad ar gyflenwadau.
Sub-Seasonal Forecasting to Improve Operational Decision Making – Wedi’i harwain gan Thames Water – £678,750
Bydd y prosiect hwn yn creu system modelu a rhagweld dibynadwy ar effaith y tywydd a fydd yn helpu cwmnïau dŵr i ragweld digwyddiadau tywydd y tu hwnt i 10-14 diwrnod, hyd at 4-6 wythnos ymlaen llaw. Bydd y systemau hyn yn gwella dealltwriaeth cwmnïau dŵr o’r ffyrdd y mae’r tywydd yn effeithio ar eu dulliau rheoli dŵr a dŵr gwastraff. Bydd defnyddio’r systemau hyn yn gwella eu gallu i reoli adnoddau a gweithrediadau ar gyfer ardaloedd sydd mewn risg o ddigwyddiadau tywydd difrifol, er enghraifft, newidiadau cyflym yng ngalw cwsmeriaid am ddŵr a rhanbarthau sy’n dueddol o brofi llifogydd dŵr wyneb.
Incentivising community-centric rainwater management – Wedi’i harwain gan Thames Water – £225,000
Mae Thames Water wedi gweithio mewn partneriaeth â Anglian Water, South West Water, Indepen, Isle Utilities ac Our Rainwater i annog cymunedau yn eu rhanbarthau i fabwysiadau offer a datrysiadau casglu dŵr glaw, er mwyn helpu i atal dŵr glaw rhag ymuno â’r rhwydwaith carthffosydd. Pan fydd yn glawio’n drwm, bydd dŵr dros ben yn llifo i gartrefi a dreifiau tai pobl ac yn ymuno â’r rhwydwaith carthion sy’n gallu cyfrannu at orlethu’r rhwydwaith ac arwain at lifogydd dŵr wyneb, llifogydd carthffosydd a gollyngiadau carthffosydd. Bydd y prosiect yn annog mabwysiadu dulliau casglu dŵr glaw yn eang ar lefel llawr gwlad. Bydd yn profi a mesur sut y gellir cymell cymunedau i fabwysiadu’r mesurau hyn a helpu i ddiogelu’r amgylchedd.
Unlocking bioresource market growth using a collaborative decision support tool – wedi’i harwain gan Anglian Water – £314,316
Bydd Anglian Water yn gweithio gyda phedwar cwmni dŵr i ddatblygu gallu cynllunio strategol cydweithredol, wedi’i gefnogi gan feddalwedd cynllunio systemau addasol Business Modelling Associates’. Bydd hyn yn nodi cyfleoedd i fasnachu bio-ffynonellau ar draws asedau presennol a phenderfynu ar y cymysgedd gorau o fuddsoddiadau rhwng cwmnïau yn y dyfodol; mynd i’r afael â heriau cyffredin a sicrhau’r gwerth mwyaf i’r amgylchedd a chwsmeriaid.
Unlocking digital twins – wedi’i harwain gan Thames Water – £334,800
Mae ‘gefell digidol’ yn gynrychiolaeth rithiol o asedau neu brosesau ffisegol cwmni dŵr, er enghraifft fersiwn digidol o’i rwydwaith o bibellau a phrosesau trin dŵr. Mae cwmnïau dŵr yn defnyddio’r efeilliaid digidol hyn er mwyn datgloi arloesiadau newydd sy’n cael eu llywio gan ddata, sy’n gallu gwella eu gwasanaethau a’r ffordd maent yn rheoli eu rhwydweithiau er budd cwsmeriaid. Mae mwy o gwmnïau yn defnyddio gefeilliaid digidol ond nid oes model a phroses safonol cytûn, sydd â’r potensial i greu aneffeithlonrwydd, lleihau’r gwerth a gyflawnir gan y systemau hyn a chynyddu costau. Bydd y prosiect hwn yn creu safonau i gefnogi gefeilliaid digidol cyson drwy’r diwydiant cyfan.
Water Quality As-A-Service Treatment-2-Tap – Wedi’i harwain gan Northumbrian Water – £714,880
Bydd Treatment-to-Tap yn arddangos newid sylweddol yn y dull o reoli ansawdd dŵr i gwsmeriaid, bydd Northumbrian Water yn gweithredu rhwydwaith integredig mwyaf Ewrop ar synwyryddion a meddalwedd dadansoddeg ansawdd dŵr a rheoli gollyngiadau. Mae rheoli ansawdd dŵr yn her gynyddol oherwydd rhwydweithiau sy’n heneiddio sy’n gwasanaethu poblogaeth sy’n tyfu. Bydd yr ymchwil gwyddor ymddygiad yn asesu’r ffordd orau i ymgysylltu â chwsmeriaid a’u cefnogi pan fydd gwybodaeth amser real ar gael am ansawdd dŵr – sy’n golygu y bydd cysylltiad agosach nac erioed rhwng gweithrediadau cwmnïau dŵr a chwsmeriaid. Bydd consortiwm o bum cwmni dŵr yn cyfrannu i ddiffinio a dilysu arfer gorau ar sut y gellir ymgorffori gwybodaeth newydd yn y gweithrediadau rhagweithiol. Yna bydd templed model busnes newydd yn galluogi pob cwmni dŵr i weld sut y gallent rannu risgiau a chwmpas gyda’r gadwyn gyflenwi i gyflawni’r costau isaf a’r gwasanaeth gorau i’r cwsmer ar raddfa ac yn gyflym.