Mae heriau sylweddol o hyd i gwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd oddi wrth lifogydd cyson, sychder am gyfnodau hir a’r effeithiau ar ansawdd dŵr.
Bydd twf cyflym presennol y diwydiant codi tai yn ychwanegu at yr heriau hyn a chynyddu’r galw am ddŵr a gwasanaethau dŵr gwastraff tan fydd y sefyllfa’n anghynaladwy.
Mae Rheoli Dŵr yn Integredig (IWM) yn cynnig ateb drwy gyfuno seilwaith, technoleg, polisïau a rhaglenni newid ymddygiad i wella bywydau drwy reoli dŵr mewn ffordd gydgysylltiedig.
Pur anaml y gweithredir IWM oherwydd problemau stiwardiaeth, safonau polisi a rheoleiddio statig a diffyg fforddiadwyedd.
Bydd y prosiect hwn yn arloesi drwy fynd i’r afael â’r pethau hyn drwy:
– Ailfeddwl am asedau: Datblygu a phrofi dulliau IWM arloesol o ddylunio a rheoli asedau i gefnogi modelau stiwardiaeth newydd;
– Ailfeddwl am rolau: Herio safonau polisi a rheoleiddio i gefnogi rhanddeiliaid;
– Ailfeddwl am werth: Deall cymhelliad rhanddeiliaid i ddatblygu modelau ariannol er mwyn datgloi ffynonellau buddsoddi newydd a chysoni ffynonellau presennol, i ddarparu IWM fforddiadwy.