Ofwat yn cadarnhau cystadleuaeth mynediad agored newydd i arloeswyr ac yn ceisio ymestyn y Gronfa Arloesedd hyd at 2030

News – News & UpdatesWater Breakthrough Challenge

Ofwat yn cadarnhau cystadleuaeth mynediad agored newydd i arloeswyr ac yn ceisio ymestyn y Gronfa Arloesedd hyd at 2030

July 12, 2022

Mae Ofwat wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer cam nesaf eu Cronfa Arloesedd, gan gynnwys cystadleuaeth ‘mynediad agored’ newydd a fydd yn cael ei lansio yn gynnar yn 2023 a fydd yn golygu y bydd £4 miliwn ar gael i arloeswyr o unrhyw sector – o dechnoleg ariannol, i weithgynhyrchwyr, grwpiau cymunedol neu lywodraeth leol – i’w galluogi i wneud cais am hyd at £500,000 ar gyfer eu syniadau arloesol ar gyfer y sector dŵr.

Yn ogystal â’r gystadleuaeth mynediad agored newydd, bydd yr Her Water Breakthrough yn lansio ym mis Hydref 2022, gyda chyfanswm o £38 miliwn ar gael ar gyfer mentrau arloesol sy’n cael eu harwain gan gwmnïau dŵr a’u partneriaid.

Darllenwch fwy am ein cynlluniau ar gyfer y Gronfa Arloesedd isod.

Datblygu’r Gronfa

Lansiodd Ofwat y Gronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn yn 2020, i gefnogi mentrau arloesol sy’n cyflawni buddiannau sylweddol i gwsmeriaid dŵr, cymdeithas a’r amgylchedd. Mae’n ceisio datblygu capasiti’r sector dŵr i arloesi, i’w galluogi i fynd i’r afael yn well â heriau a chyflawni anghenion esblygol ei randdeiliaid.

Yn ystod cyfnod peilot 20 mis, a oedd yn cynnwys tair cystadleuaeth, dyfarnodd y gronfa £63 miliwn i brosiectau a oedd yn amrywio o ddatrysiadau biobeirianneg ar gyfer llygredd amonia a ffosfforws i gael gwared ar lygrwyr o ddŵr a chreu economi gylchol ar gyfer cemegau cyfyngedig a defnyddiol, mentrau dal carbon er mwyn lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig â diwydiant i gyflawni targedau’r diwydiant dŵr o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2030, a phrosiectau ymchwil arloesol i ddatblygu hydrogen gwyrdd o garthion, i greu dewisiadau ynni glân amgen.

Yn dilyn adolygiad o’r cyfnod peilot (sydd wedi’i grynhoi yn yr Adroddiad diwedd y Cynllun Peilot sydd wedi’i baratoi gan bartneriaid cyflawni’r Gronfa) ac ymgynghoriad, mae Ofwat wedi datgan sut y bydd y gronfa arloesedd yn datblygu i gyflawni blaenoriaethau cwsmeriaid, yr amgylchedd a diwydiant yn y blynyddoedd nesaf:

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyllid a Seilwaith yn Ofwat:

“Mae angen mwy o arloesedd arnom yn y sector dŵr i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n ei wynebu. Mae’r Gronfa Arloesedd wedi ysbrydoli cwmnïau lluosog i gydweithio yn y sector dŵr a thu hwnt. Mae uchelgais y cynigion llwyddiannus hyd yma yn arddangos ymrwymiad y sector i greu system ddŵr wydn er budd yr amgylchedd a chwsmeriaid. Yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn dosbarthu tua £120 miliwn i fwy o fentrau arloesol. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr Her Water Breakthrough yn dychwelyd yn yr hydref, yn ogystal â chystadleuaeth newydd i arloeswyr o unrhyw sector sydd â syniadau a all drawsnewid y diwydiant dŵr mewn ffordd gadarnhaol i ddilyn yn gynnar yn 2023. Rydym hefyd yn ymgynghori i barhau i ddarparu’r gronfa hyd at 2030.”

Yr Her Water Breakthrough yn dychwelyd yn yr hydref 2022

Bydd Her Water Breakthrough 3 (Breakthrough 3) yn lansio ar 3 Hydref 2022 a bydd yn cynnal y ddwy ffrwd o Breakthrough 2:

  • Bydd y Ffrwd Catalyst gwerth £8 miliwn yn caniatáu ceisiadau ar gyfer rhwng £150,000 a £2 filiwn. Gellir cyflwyno ceisiadau o 12 hanner dydd, ddydd Llun 3 Hydref 2022, hyd at 12 canol dydd, ddydd Mercher 9 Tachwedd 2022.
  • Bydd y Ffrwd Transform gwerth £30 miliwn yn caniatáu ceisiadau ar gyfer rhwng £2-10 miliwn (gydag Ofwat yn ystyried yr opsiwn i ganiatáu ceisiadau am fwy na £10 miliwn). Gellir cyflwyno ceisiadau o 12 canol dydd, ddydd Llun 3 Hydref 2022, hyd at 12 canol dydd, ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022.

Mae’r ddwy ffrwd yn cynnwys gofyniad am gyfraniad ariannol o 10%, a gofyniad i’r prif ymgeiswyr fod yn gwmni dŵr yng Nghymru neu Lloegr, fodd bynnag gall yr ymgeiswyr arweiniol ar gyfer y ffrwd Catalyst drosglwyddo cyfrifoldebau rheoli prosiect (gan gynnwys llunio’r cais) i’w partneriaid.

Ar ôl treialu Breakthrough 2 yn y ffrwd Catalyst, gellir trwyddedu hawliau eiddo deallusol ar gyfer ceisiadau i’r naill ffrwd neu’r llall, fodd bynnag mae’n rhaid rhannu unrhyw hawliau eiddo deallusol cefndir a ddatblygwyd drwy’r gystadleuaeth gyda chwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion ar sut y bydd y ddwy ffrwd yn cael eu cynnal pan fydd y gystadleuaeth yn agor.

Cystadleuaeth mynediad agored newydd

Yn dilyn cefnogaeth aruthrol yn yr ymgynghoriad, bydd y gystadleuaeth mynediad agored newydd yn lansio yn gynnar yn 2023. Yn wahanol i’r Her Water Breakthrough, ni fydd gofyniad i sefydliadau weithio mewn partneriaeth na derbyn nawdd gan gwmni dŵr i gystadlu.

Bydd yn targedu arloesedd cam cynnar yn bennaf, gan ddyrannu tua £4 miliwn o gyllid yn flynyddol, gyda thua hyd at £500,000 ar gael ar gyfer ceisiadau unigol, ac ni fydd unrhyw gyfraniad ariannol gorfodol o 10%, na gofyniad i drwyddedu unrhyw hawliau eiddo deallusol.

Fel gydag ymgeiswyr eraill i’r Gronfa Arloesedd, bydd angen i geisiadau i’r gystadleuaeth mynediad agored newydd alinio ag un neu fwy o themâu arloesedd Ofwat.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion ar sut y bydd y gystadleuaeth newydd hon yn cael ei chynnal, gan gynnwys trosolwg o’r broses fynediad, yr amserlen a’r meini prawf yn yr hydref 2022.

Themâu arloesedd wedi’u haddasu

Ers lansio’r Gronfa, mae ceisiadau wedi gorfod alinio ag un neu fwy o themâu arloesedd Ofwat, y bwriedir iddynt amlygu’r meysydd allweddol y mae angen syniadau arloesedd ar eu cyfer yn y sector dŵr.  Yn dilyn adborth yn ystod y cyfnod peilot, mae Ofwat wedi diwygio’r themâu hyn i alinio’n agosach â strategaeth arloesedd dŵr 2050 a blaenoriaethau diweddaraf Llywodraeth y DU ar gyfer Ofwat:

  1. Addasu i newid yn yr hinsawdd a chyflawni sero net allyriadau
  2. Diogelu a gwella’r amgylchedd
  3. Cyflawni gwytnwch gweithredol hirdymor
  4. Cyflawni gwasanaethau yn well ar gyfer cwsmeriaid a chymdeithas

Dyfodol y Gronfa Arloesedd

Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth sylweddol i’r Gronfa barhau y tu hwnt i 2025 fel ffordd o ddarparu sicrwydd i’r sector, meithrin partneriaethau hirdymor a pharhau i greu ffynhonnell o syniadau newydd.  Mae  Ofwat yn ymgynghori yn awr ar eu cynnig i gynnal y gronfa hyd at 2030 – a bydd yn cadarnhau ei benderfyniad erbyn diwedd 2022.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda’r sector dŵr ac arloeswyr eraill i ystyried sut y gall y Gronfa barhau i ysgogi arloesedd hyd at 2030, gan gynnwys maint y Gronfa, sut y gallai weithredu ac a fyddai’n bosibl ei chyflawni mewn partneriaeth â sectorau neu ffrydiau cyllid eraill.

I gael gwybodaeth am yr holl ddatblygiadau yn y dyfodol gallwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.