Enwebiadau agored am feirniaid: Eich ymgeiswyr ar gyfer y 3 phanel beirniadu Breakthrough

News – News & UpdatesWater Breakthrough Challenge

Enwebiadau agored am feirniaid: Eich ymgeiswyr ar gyfer y 3 phanel beirniadu Breakthrough

August 19, 2022

Ym mis Awst 2022 agorwyd ar gyfer ymgeiswyr eithriadol i ffurfio ein paneli beirniadu.

Bydd trydedd rownd y Water Breakthrough Challenge (‘Breakthrough 3’), sy’n werth £38 miliwn, yn cael ei lansio ym mis Hydref 2022. Rydym yn gweld hwn fel cyfle go iawn i’r sector dŵr arddangos ehangder ac uchelgais yr arloesedd y gall y cystadlaethau eu galluogi a siapio dyfodol y Gronfa.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ffurfio dau banel o arbenigwyr ar gyfer Breakthrough 3 (un ar gyfer pob un o ffrydiau’r gystadleuaeth, Catalyst a Transform). Bydd pob panel yn cynnwys 6-8 aelod. Bydd y paneli hyn o arbenigwyr yn beirniadu’r ceisiadau ac yn gwneud argymhellion i Ofwat o ran pa geisiadau am gyllid ddylai fod yn llwyddiannus.

Ein nod yw ffurfio paneli amrywiol gydag aelodau’n dod ag amrywiaeth eang o safbwyntiau, gyda chydbwysedd da o leisiau o’r sector dŵr ac o’r tu allan i’r sector. Mae ein paneli’n rhan annatod o’r broses o ddewis enillwyr a byddwn yn parhau i fanteisio ar eu harbenigedd i ddewis yr ymgeiswyr sydd fwyaf tebygol o gael effaith tymor hir ar y sector.

Helpwch ni i ddod o hyd i ymgeiswyr allweddol a fyddai’n addas ar gyfer trydedd rownd y Water Breakthrough Challenge.

enwebwch eich ymgeisydd i fod yn feirniad yma

Rydym yn chwilio am arbenigedd a phrofiad mewn dau neu ragor o’r meysydd canlynol:

  • Profiad o arwain, gweithredu a/neu arloesi yn y sector dŵr yng Nghymru a Lloegr
  • Profiad o arwain, gweithrediadau a/neu arloesi yn y sector dŵr rhyngwladol a/neu’r sectorau trosglwyddadwy (e.e. ynni, adeiladu, dinasoedd a thrafnidiaeth, ffermio ac amaethyddiaeth, digidol, gweithgynhyrchu)
  • Profiad o raglenni arloesi trawsnewidiol neu newid yn y sector dŵr rhyngwladol a/neu sectorau trosglwyddadwy (e.e. ynni, adeiladu, dinasoedd a thrafnidiaeth, ffermio ac amaethyddiaeth, digidol, gweithgynhyrchu)
  • Arbenigedd mewn cynrychioli defnyddwyr
  • Profiad o’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â data agored, ysgogi arloesedd a chydweithio, er enghraifft, annog modelau busnes newydd a chynigion gwasanaeth sydd o fudd i gwsmeriaid, gan gynnwys y rheini mewn amgylchiadau bregus.
  • Arbenigedd mewn un neu fwy o bedair thema arloesi strategol y Gronfa:

 

    1. Ymateb ac addasu i newid yn yr hinsawdd gan gynnwys cyflawni uchelgeisiau’r sector o gyflawni carbon sero net, dim gwastraff a dim gollyngiadau
    2. Diogelu a gwella’r amgylchedd a systemau naturiol, er mwyn diogelu cwsmeriaid rhag effeithiau tywydd eithafol a llygredd, nawr ac yn y dyfodol
    3. Sicrhau cadernid gweithredol tymor hir a deall risgiau seilwaith i gwsmeriaid a’r amgylchedd, gan ddod o hyd i atebion i liniaru’r rhain mewn ffyrdd cynaliadwy ac effeithlon
    4. Profi ffyrdd newydd o gynnal gweithgareddau craidd i ddarparu’r gwasanaethau mae cwsmeriaid a chymdeithas eu hangen, yn eu disgwyl a’u gwerthfawrogi, nawr ac yn y dyfodol

enwebwch eich ymgeisydd i fod yn feirniad yma

Sylwch nad yw’r enwebiadau’n rhwymol, ac nad ydynt yn gwarantu lle i ymgeisydd ar y panel beirniaid.
Nid yw’r enwebiadau’n benodol i gystadleuaeth neu ffrwd, a bydd y tîm cyflawni’n gwneud argymhellion ynghylch pa ymgeisydd fyddai fwyaf addas ar gyfer pa banel.