Syniadau arloesol i wella effeithlonrwydd dŵr, atal gollyngiadau a chynyddu’r carbon sy’n cael ei ddal yn Her Water Breakthrough Ofwat

News – News & UpdatesWater Breakthrough Challenge

Syniadau arloesol i wella effeithlonrwydd dŵr, atal gollyngiadau a chynyddu’r carbon sy’n cael ei ddal yn Her Water Breakthrough Ofwat

April 28, 2022

[Read this article in English.]

Mae prosiectau arloesol sy’n lleihau gollyngiadau, yn gwella effeithlonrwydd dŵr aelwydydd ac sy’n troi carbon deuocsid yn gynnyrch defnyddiol, gan gynnwys paent a gwrtaith, wedi’u cyhoeddi fel enillwyr ail Transform Stream her Water Breakthrough Challenge.

Mae Ofwat, y rheoleiddiwr dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr, wedi dyfarnu £20 miliwn o gyllid i enillwyr yr ail Water Breakthrough Challenge – rhan o gyfres o gystadlaethau arloesol a grëwyd gyda’r £200 miliwn a ddarparwyd gan y Gronfa Arloesedd Dŵr ac a gyflenwyd gan Nesta Challenges, Arup ac Isle Utilities. Mae’r gronfa yn helpu i ysgogi prosiectau arloesol newydd, sy’n galluogi’r sector dŵr i gyflawni anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn well.

Darllenwch fwy.

Roedd enillwyr Transform Stream, Water Breakthrough Challenge yn canolbwyntio ar syniadau arloesol trawsnewidiol mawr, tymor hwy – gan gynnwys:

National Leakage Research and Test Centre (NLRTC) – Bydd Northumbrian Water yn creu canolfan genedlaethol i brofi cynnyrch newydd i fynd i’r afael â gollyngiadau mewn amodau “bywyd go iawn”, gan wella diogelwch ac effeithiolrwydd er mwyn gallu eu cyflwyno yn gyflymach ac ar raddfa fwy.

Managing Background Leakage – Bydd grŵp o gwmnïau dŵr o dan arweiniad Dŵr Cymru Welsh Water yn helpu i ddatblygu technolegau newydd i ganfod y gollyngiadau niferus sy’n cael eu methu ar hyn o bryd drwy’r dulliau ymchwilio presennol drwy gynnal ymchwiliadau fforensig o 25 ardal, gan ddefnyddio synwyryddion llif, pwysedd a thymheredd ar lefel o ddwyster nas cynhaliwyd o’r blaen.

Enabling Water Smart Communities – bydd grŵp o gwmnïau dŵr, prifysgolion, adeiladwyr cartrefi ac awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau y gellir integreiddio’r 4 miliwn o gartrefi newydd [1] sydd ar y gweill erbyn 2041 i’r system ddŵr mewn ffordd gynaliadwy, gan sicrhau bod gan gymunedau newydd fynediad parhaus at adnoddau dŵr y mae pen draw iddynt, y rheolir dŵr gwastraff a bod peryglon llifogydd yn cael eu lliniaru.

CECCU (CHP Exhaust Carbon Capture and Utilisation) – prosiect i drawsnewid carbon a ddelir yn gynnyrch defnyddiol fel paent a gwrtaith, gan arbed 5 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn a chreu’r broses Gwres a Phŵer Cyfunol (CHP) – lle mae gwres, fel sgil-gynnyrch ynni a gynhyrchir yn cael ei ddal a’i ddefnyddio – carbon niwtral.

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyllid a Seilwaith yn Ofwat:

“Mae’n hollbwysig i’r sector dŵr greu syniadau newydd, arloesol i ddatrys yr heriau sy’n wynebu’r sector, a chymdeithas. Bydd yr enillwyr a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddatblygu syniadau i arbed mwy o ddŵr, troi carbon a ddelir yn gynnyrch defnyddiol ac, yn y pen draw, sicrhau bod y sector yn fwy cynaliadwy.

“Mae Cronfa Arloesedd Ofwat, sy’n darparu gwobrau ariannol ar gyfer llawer o’r cystadlaethau hyn, yn bodoli i helpu i ysgogi mentrau newydd a mentrus gan gwmnïau dŵr sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, elusennau, practisau peirianneg a chwmnïau technoleg. Mae gennym lawer i’w ddysgu gan sectorau eraill ac mae enillwyr y rownd hon o’r gystadleuaeth yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio.”

Dywedodd Sharon Darcy, Cyfaryddwr, Sustainability First a beirniad Transform Stream yr ail Water Breakthrough Challenge:

“Er y byd llawer yn meddwl am sero-net fel mater i gwmnïau pŵer, mae’r sector dŵr yn defnyddio 2-3% o’r holl drydan a gynhyrchir yn y DU. Bydd atebion newydd sy’n cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel CECCU a dulliau prif-ffrydio fel Galluogi Cymunedau Arbed Dŵr sy’n helpu i ofalu am a lleihau’r galw am ddŵr, yn gwneud cyfraniad mawr i helpu’r sector i gyrraedd ei dargedau sero-net er lles pawb.”

I gael gwybod mwy am enillwyr y Water Breakthrough Challenge a chronfa arloesedd Ofwat, ewch i waterinnovation.challenges.org/winners.

Dechreuodd Ofwat ar ymgynghoriad yn ddiweddar ar gyfeiriad Water Breakthrough Challenges a’r Gronfa Arloesedd Dŵr yn y dyfodol.  Mae’n bosibl lleisio barn mewn dwy ffordd, drwy  ffurflen ymateb ar-lein neu drwy anfon sylwadau drwy e-bost i [email protected]. 

Mae’r ymgynghoriad chwe wythnos yn dod i ben ar 17 Mai 2022 – mae manylion llawn yr ymgynghoriad ar gael yn www.ofwat.gov.uk.

 

Enillwyr ail Transform Stream y Water Breakthrough Challenge