Popeth yr oeddech eisiau ei wybod am Breakthrough 3

News – Water Breakthrough Challenge

Popeth yr oeddech eisiau ei wybod am Breakthrough 3

October 3, 2022

Popeth yr oeddech eisiau ei wybod am Breakthrough 3

Mae trydedd rownd y Water Breakthrough Challenge (‘Breakthrough 3’) yn lansio heddiw, gyda thua £38 miliwn ar gael i geisiadau arloesol er mwyn hybu cydweithrediad yn y sector dŵr yng Nghymru a Lloegr a rhoi manteision hirbarhaus i gwsmeriaid dŵr, cymdeithas a’r amgylchedd.

Ar ôl llwyddiant y ddwy rownd gyntaf, a welodd £61.5m yn cael ei ddyfarnu i amrediad o brosiectau trawsnewidiol, rydym yn gobeithio gweld mwy o geisiadau arloesol ar gyfer Breakthrough 3 yn seiliedig ar themâu arloesi strategol y Gronfa.

P’un ai ydych wedi cystadlu o’r blaen neu’n gwneud hynny am y tro cyntaf yr hydref hwn, yn y blog hwn rhannwn bopeth yr oeddech eisiau ei wybod am ymgeisio ar gyfer Breakthrough 3, o fanylion y gystadleuaeth i’r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr.

Ac ar ben hynny, ymunwch â ni ar Ddydd Mercher 5 Hydref am 11am i drafod proses y gystadleuaeth gyda thîm darparu Breakthrough 3, a gofyn unrhyw gwestiwn am y gystadleuaeth yn fyw!

A blue running race track shows different lanes painted with white lines
Catalyst a Transform Streams: Ar agor i geisiadau
Dydd Llun 3 Hydref 2022 am 12pm
Water through the brick openings of Craig Goch Dam
Transform stream, Cam 1: Ar gau i geisiadau
Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022 am 12pm
Water pours over a dam
Catalyst stream: Ar gau i geisiadau
Dydd Iau 8 Rhagfyr 2022 am 12pm
Water through the brick openings of Craig Goch Dam
Transform stream, Cam 2: Ar agor i geisiadau (drwy wahoddiad yn unig)
Dydd Iau 8 Rhagfyr 2022 am 12pm
Water pours over a dam
Transform stream, Cam 2: Ar gau i geisiadau (drwy wahoddiad yn unig)
Dydd Iau 2 Chwefror 2023 am 12pm
Two people hold sparklers at dusk
Catalyst stream: Cyhoeddiad yr enillwyr
Ebrill 2023
A close up shot of a sparkler
Transform stream: Cyhoeddiad yr enillwyr
Mai 2023
  • 2022
  • 2022
  • 2022
  • 2022
  • 2023
  • 2023
  • 2023

Dyddiadau pwysig 

Water pours over a dam

Catalyst stream

Ar agor i geisiadau am 12pm ar 3 Hydref 2022 ac yn cau am 12pm GMT ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022.

Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Ebrill 2023.

Water through the brick openings of Craig Goch Dam

Transform stream

Ar agor i geisiadau Cam 1 am 12pm BST ddydd Llun 3 Hydref 2022 ac yn cau am 12pm GMT ddydd Mercher 9 Tachwedd 2022.

Ar agor i geisiadau Cam 2 am 12pm GMT ddydd Iau 8 Rhagfyr, ac yn cau am 12pm GMT ddydd Iau 2 Chwefror 2023. Cofiwch fod Cam 2 drwy wahoddiad yn unig.

Cyhoeddir yr enillwyr ddiwedd mis Mai 2023.

Golwg sydyn

Mae Breakthrough 3 ar agor i gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr a’u partneriaid, ac yn cadw’r ddwy ffrwd o Breakthrough 2: y Catalyst stream £8 miliwn, a’r Transform stream £30 miliwn.

Slide-2-Cymru
Slide-3-Transform-cymru
220920-Welsh-B3-Updated

Catalyst stream

Mae’r Catalyst stream yn ceisiadau sy’n profi ffyrdd newydd o weithio sy’n fwy na dim ond arferion arloesi busnes-fel-arfer yn y sector dŵr, gyda ffocws penodol ar gynyddu a gwella cydweithrediad a chreu partneriaethau o fewn a’r tu allan i’r sector dŵr.

Gall ceisiadau i’r Catalyst Stream ofyn am gyllid rhwng £150,000 a £2 miliwn. Gyda Breakthrough 3, rydym wedi cynyddu faint o gyllid y gellir ei ddyfarnu drwy’r Catalyst stream o £1 miliwn i £2 miliwn, i sicrhau bod y broses ar gyfer pob cais yn gymesur â’r gwerth i geisiadau.

Newid defnyddiol arall i’r broses yw gadael i gwmnïau dŵr ddirprwyo’r gwaith o weinyddu eu ceisiadau ar gyfer y Catalyst stream i’w partneriaid. Mae hyn yn cynnwys drafftio a chyflwyno’r cais ei hun.

ewcg draw I dudalen y catalyst stream

Transform stream

Nod y Transform stream yw ysgogi arloesi uchelgeisiol a dulliau a ffyrdd newydd o weithio, gan arfogi’r sector dŵr i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu’r sector gan ddod â manteision pellgyrhaeddol a hirbarhaus i gwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd ar draws Cymru a Lloegr, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Gall ceisiadau i’r Transform steam ofyn am rhwng £2 miliwn a £10 miliwn o gyllid [1].

Mae’r Transform stream yn rhedeg mewn dau gam: Cam 1 sy’n sgrinio, yna gofynnir cwestiynau ychwanegol yn y prif gam sef Cam 2, sydd drwy wahoddiad yn unig.

Fel gwahaniaeth pellach i’r Catalyst stream, yn y Transform stream dylai’r ceisiadau fod yn rhai o bwysigrwydd strategol uchel i gwmnïau dŵr ac felly bydd angen i’r cwmnïau dŵr eu cydlynu a’u cyflwyno eu hunain.

[1] Yn unol ag amodau penodol, mae Ofwat yn agored i dderbyn cynigion sy’n gwneud cais am dros £10 miliwn. Gweler yr adran Gofynion Mynediad yn y Llawlyfr i Ymgeiswyr Transform am ragor o fanylion.

ewcg draw I dudalen y transform stream

Pa ffrwd sydd i mi?

Os ydych yn gwmni dŵr neu’n gweithio mewn partneriaeth â chwmni dŵr, dylai faint o gyllid yr ydych yn chwilio amdano benderfynu pa ffrwd o Breakthrough 3 i ymgeisio amdani.

Mae’r broses ymgeisio a’r gofynion ymgeisio’n adlewyrchu hyn: mae’r Catalyst stream yn cynnwys un cam asesu ond dylai ymgeiswyr i’r Transform stream fod yn barod i gyflwyno mwy o fanylion yng Ngham 2 ynghyd â manteision amlwg i gwsmeriaid, cymdeithas a / neu’r amgylchedd o fewn y cyfnod darparu os ydynt yn llwyddiannus.

How-to-decide-Cymru

Y print mân

Am y tro cyntaf, yn Breakthrough 3 rydym yn treialu cyflwyniadau byw i’r beirniaid fel rhan o’r broses ymgeisio. Bydd gan y beirniaid hefyd gyfle i ofyn cwestiynau i’r ymgeiswyr am eu ceisiadau.

Fel gyda’r rowndiau blaenorol, ar gyfer y ddwy ffrwd yn y gystadleuaeth, rhaid cael cyfraniad ariannol o 10% gan bartneriaid y cais.

Yn dilyn treialu hawliau eiddo deallusol (IPR) yn Rownd 2, mae Breakthrough 3 yn lleihau’r rhwystrau i ymgeiswyr drwy adael i berchnogion IPR cefndir godi ffi drwydded deg, resymol a di-ragfarn. Bydd dal angen i eiddo deallusol sy’n cael ei greu drwy’r gystadleuaeth (IPR blaendir) gael ei drwyddedu i gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn ddi-freindal.

Angen help gyda’ch cais?

Gall ymgeiswyr ar gyfer Breakthrough 3 fanteisio ar ystod o gymorth. Dyfeisiwyd y cymorth hwn i helpu gyda gwahanol agweddau ar y gystadleuaeth, o ddeall y broses asesu i ysgrifennu’r cais gorau posib.

Angen help gyda’ch cais?

Gall ymgeiswyr ar gyfer Breakthrough 3 fanteisio ar ystod o gymorth. Dyfeisiwyd y cymorth hwn i helpu gyda gwahanol agweddau ar y gystadleuaeth, o ddeall y broses asesu i ysgrifennu’r cais gorau posib.

john-schnobrich-FlPc9_VocJ4-unsplash

Llawlyfr Ymgeiswyr

Yn gyntaf: y Llawlyfr Ymgeiswyr. Hwn fydd eich cyfeirlyfr ar gyfer unrhyw beth yn ymwneud â rheolau’r gystadleuaeth, gan gynnwys cymhwyso, meini prawf asesu, cwestiynau i ymgeiswyr a mwy. Gan ddibynnu ar ba ffrwd y byddwch yn ymgeisio iddi, argymhellwn yn gryf i chi lawrlwytho copi o Lawlyfr Ymgeiswyr y Catalyst stream neu Lawlyfr Ymgeiswyr y Transform stream.

B3-blog-faqs

Cwestiynau Cyffredin

Ewch drwy’r rhestr ddiweddaraf o’r cwestiynau mwyaf cyffredin (FAQ) i gael atebion sydyn i’ch cwestiynau am Breakthrough 3.

FAQs

claudio-schwarz-purzlbaum-k39RGHmLoV8-unsplash-e1612202916352

Sesiynau cymorth

Rydym yn parhau i gynnal ein sesiynau cymorth un-i-un poblogaidd gan roi cyfle i ymgeiswyr ofyn cwestiynau am y broses ymgeisio. Nod y gwasanaeth hwn yw egluro mwy am y wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus a helpu i ddeall y canllawiau presennol. Trefnwch sesiwn gymorth 15 munud nawr.

B3-blog-email

Cysylltu drwy e-bost

Os na allwch ddod o hyd i ateb drwy’r sianeli cymorth uchod, gallwch anfon e-bost atom yn [email protected]. Ceisiwn ateb eich cwestiynau o fewn dau ddiwrnod gwaith dros y cyfnod ymgeisio.

ian-taylor-tZnU5HvRIjs-unsplash

Gwersi o’r rowndiau blaenorol

Dros y cyfnod peilot, roeddem yn gofyn i feirniaid ac aseswyr rannu eu syniadau ar gyfer cystadlaethau’r Gronfa. Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch y ‘Six tips for entering‘ yma ynghyd â mwy o gyngor yn ‘Seven more tips’ yma.

B3-blog-email

Cysylltu drwy e-bost

Os na allwch ddod o hyd i ateb drwy’r sianeli cymorth uchod, gallwch anfon e-bost atom yn [email protected]. Ceisiwn ateb eich cwestiynau o fewn dau ddiwrnod gwaith dros y cyfnod ymgeisio

Water through the brick openings of Craig Goch Dam

Gweminar Lansio

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 5 Hydref am 11am BST ar gyfer y Weminar Lansio a sesiwn Holi ac Ateb fyw – cyfle i drafod y broses ymgeisio, beth sy’n wahanol yn y rownd bresennol a gofyn unrhyw beth arall am y gystadleuaeth.

gwyliwch y gweminat